Incident response workers from Natural Resources Wales are carrying out emergency work at two beaches in Pembrokeshire to reduce flood risk after the storm last weekend. Following the high tides and gale force winds which hit west Wales on Saturday evening, shale and sand has been pushed up the beach blocking outfalls on beaches at Amroth and Newgale. The outfalls allow water to flow onto the beach at low tide reducing the level of the Trelissey Stream at Amroth and Brandy Brook at Newgale. As the culverts are now blocked, river levels will gradually rise and could cause flooding of local properties, a caravan park and roads. The specialist teams will be on site over the next few days to remove over 3000 tonnes of shale from both sites and allow the river levels to return to normal. ------------------------------------------------------------------------------------------ Mae gweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ymateb i ddigwyddiadau'n gwneud gwaith brys i leihau peryglon llifogydd ar ddau draeth yn Sir Benfro ar ôl y storm y penwythnos diwethaf. Ar ôl y llanw uchel a'r gwyntoedd tymhestlog a fwriodd orllewin Cymru nos Sadwrn, mae gro a thywod wedi'u taflu i fyny'r traeth gan dagu gollyngfeydd ar y traethau yn Amroth a Niwgwl. Mae'r dŵr yn llifo drwy'r gollyngfeydd ac ar y traeth ar lanw isel, sy'n gostwng lefelau'r dŵr yn Nant Trelissey yn Amroth a Nant Brandy yn Niwgwl. Gan fod y cwlferti erbyn hyn wedi'u tagu, bydd dyfroedd y nentydd yn codi'n raddol a gallai hynny achosi llifogydd mewn tai, meysydd carafanau a ffyrdd yr ardal. Bydd tîm arbenigol yno yn ystod y dyddiau nesaf i waredu dros 3,000 tunnell o ro o'r ddau safle er mwyn i ddŵr yr afonydd ostwng i'w lefel arferol.