Tŷ-mawr, Castell Caereinion, Sir Drefaldwyn - Animeiddiad gan y Comisiwn Brenhinol Bu rhestru Tŷ-mawr, Castell Caereinion, yn adeilad Gradd I yn ddigwyddiad rhyfeddol o ystyried nad oedd yn edrych ar ddechrau'r 1990au damaid yn fwy cyffrous nag ysgubor yn mynd â'i phen iddi. Wedi i Peter Smith sylweddoli ym 1971 fod yr adeilad yn un hynod bwysig, fe'i hadferwyd ym 1998 ac adfer iddo'r un olwg, mae'n debyg, â phan godwyd ef ym 1460. Ar ôl yr adfer (a'r ailadeiladu rhannol) mae hi'n bosibl deall yr adeilad unwaith eto fel neuadd ag eiliau a ffrâm o goed ac efallai mai hon yw'r enghraifft orau o'i bath sydd wedi goroesi. Un o chwe animeiddiad sy'n ail-greu gwahanol fathau o dai hanesyddol yng Nghymru. Crëwyd gan CBHC a See3D i'r gyfres deledu 'Cartrefi Cefn Gwlad Cymru' (cynyrchiadau Fflic) ar S4C. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: 2010. ************************************************************************* The Grade I listing of Tŷ-mawr, Castle Caereinion, is remarkable considering that in the early 1990s it appeared externally to be no more exciting than a collapsing barn. Recognised as highly significant by Peter Smith in 1971, and restored in 1998, it is reconstructed to its probable appearance when built in 1460. Following the restoration (and partial reconstruction) it is possible once again to understand the building as a timber-framed aisled hall, and probably the best surviving example of its type. One of six reconstruction animations of historic Welsh house types created by RCAHMW and See3D Ltd for the S4C television series 'Cartrefi Cefn Gwlad Cymru' (Fflic productions). © Crown Copyright: Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales: 2010 ************************************************************************* Os hoffech brynu copi cydraniad-uchel o'r animeiddiad neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am waith y Comisiwn Brenhinol, neu'r casgliadau yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â: If you would like to purchase a high-resolution copy of the animation or have any other enquiries regarding the work of the Royal Commission, or the collections held in the National Monuments Record of Wales, please contact: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, Plas Crug, Aberystwyth, SY23 1NJ Ffôn/ Tel: +44(0)1970 621200 Gwefan: www.cbhc.gov.uk - Website: www.rcahmw.gov.uk E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk - e-mail: nmr.wales@rcahmw.gov.uk